|
Gweithio drosom ni?
Pwy?
Gweler fan hyn....
|
This page in English |
| Manylion Cysylltu |
|
Undeb Credyd Plaid Cymru
Ty'r Cymry,
11 Heol Gordon,
Caerdydd,
CF24 3AJ
T: 029 2049 1888
E: post@ucpccu.org |
|
Ar agor:
Mawrth 10:30yb - 3:30pm
Gwener 10:30yb - 3:30pm |
|
|
ADRODDIAD ARIANNOL
2009/10
|
|
Archwilwyr yr Undeb Credyd yw Williams Ross sydd wedi’u
lleoli yng Ngwaelod y Garth.
Archwiliwyd ein cyfrifon ganddynt am dros 15 mlynedd, a
dangosir eu harchwiliad mwyaf diweddar fod Undeb Credyd Plaid
Cymru Credit Union mewn cyflwr ariannol
cadarn.
Unwaith eto mae swm yr arian a fenthycir wedi codi i
£191,197, ffigwr sydd heb ei gyrraedd gennym ers bodoli, fel y
dangosir yn y graff.
Llôg ar y benthyciadau yw prif incwm UCPCCU a chyda’r
llôg ar fuddsoddiadau yng Nghymdeithas Adeiladu Abertawe a
Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, dyma’r unig incwm a sicrheir
gan UCPCCU. Yn
anffodus, oherwydd y raddfa llôg isel gan y Cymdeithasau
Adeiladu, mae’r incwm o’r ffynhonell yma wedi gostwng yn
sylweddol.
Mae’r swm o gyfrannau aelodau (cynilion) a gedwir gan
UCPCCU wedi cynyddu unwaith yn rhagor am y degfed flwyddyn yn
olynol. Ar hyn o
bryd mae’r swm yn sefyll ar dros £300,000. O ganlyniad i’n
perfformiad rydym unwaith yn rhagor yn gallu cynnig llôg
difidend o 2% ar gyfrifon gyda mynediad sydyn, sydd yn uwch na
rhan fwyaf o Fanciau y Stryd Fawr a Chymdeithasau
Adeiladu.
Newyddion da am 2010/11 yw bod y benthyciadau yn uwch
eto ac yn llawer uwch na’n targed am y flwyddyn, a chyda 3 mis
eto yn weddill o’r flwyddyn, fe all guro record y benthyciadau
uchaf a wnaed yn 2004/05 a oedd yn £124,211.

Ebost/Gwefan
Gellir cael gafael ar pob ffurflen o’r wefan. Bydd
diweddiadarau cyson yn cael eu postio ar y wefan. Hefyd mae dolenni
diddorol ar gael i ACau a ASau Plaid Cymru, Jill Evans ac amryw eraill.
Cyfeiriad yr ebost yw
post@ucpccu.org neu ucpccul@btconnect.com a gellir cael
mynediad i’r wefan drwy
www.ucpccu.org
|
|
|
Croeso i Undeb Credyd Plaid Cymru
sy’n gwasanaethu Aelodau Plaid Cymru a’u teuluoedd. |
|
Mae undeb
credyd yn undeb cydweithredol ariannol sydd yn eiddo i, ac yn
cael ei rheoli gan, ei haelodau. Mae’n darparu benthyciadau
fforddiadwy a mynediad hawdd i gynilion. |
|
|
Personel
Mae pob un sy’n cynilo gyda undeb credyd yn berchennog ac mae ganddo/ganddi yr hawl i gael ei ddweud/dweud yn y ffordd y mae'r Undeb Credyd yn cael ei redeg. Anogir aelodau i ddangos diddordeb a chymeryd rhan yn nrhefniadaeth a rheolaeth eu hundeb credyd.
Darperir hyffordddiant i sicrhau bod gan wirfoddolwyr y sgiliau a’r wybodaeth anghenrheidiol i gario allan eu dyletswyddau.
Gwirfoddolwyr o fysg yr aelodau sydd yn y tri prif bwyllgor sy’n trefnu a rheoli undeb credyd.
Rhain yw’r tri Pwyllgor sy’n rhedeg undeb credyd:
Bwrdd y Cyfarwyddwyr
Y Pwyllgor Credyd
Y Pwyllgor Goruchwylio
Os hoffech ragor o
fanylion am waith y pwyllgorau uchod cysylltwch â ni. |
|
Swyddfa Gofrestredig: T y'r Cymry, 11 Heol
Gordon, Caerdydd, CF24 3AJ |
|
|
|
RAFFL £100
AELODAU NEWYDD
Croeso
mawr i aelod newydd, Cefin Thomas, sydd eisoes wedi gweld
gwerth o ymuno â UCPCCU.
Cefin a enillodd y wobr o £100 yn y raffl am aelodau
newydd.
|
|
CROESO i
UCPCCU
I
gadw y traddodiad teuluol, Nathan, 19 mlwydd oed, yw aelod
diweddaraf o deulu’r Bennett o Gasnewydd i ymuno â’r Undeb
Credyd. Mae ei fam, ei
ddwy chwaer a’i frawd, yn aelodau eisoes.
Mae
Nathan yn gefnogwr brwd o Man U. ac yn gweithio gyda Lloyds
TSB.
|
|