Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union Undeb Credyd Plaid Cymru Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union

  • Hafan
  • Cynilion
  • Benthyciad
  • Newyddion
  • Hen Newyddion
  • Cwestiynnau
  • Ffurflenni
  • Dolenni
  • This page in English
    Manylion Cysylltu
    Undeb Credyd Plaid Cymru
    Ty'r Cymry,
    11 Heol Gordon,
    Caerdydd,
    CF24 3AJ
    T: 029 2049 1888
    E: post@ucpccu.org
    Ar agor:
    Mawrth 10:30yb - 3:30pm
    Gwener 10:30yb - 3:30pm

    Manteision benthyca gyda Undeb Credyd

    Byddwch yn benthyg drwy undeb credyd fel aelod-berchennog. Mae benthyciadau undeb credyd ar gael i helpu aelodau pan mae'r angen yn codi.

    Mae cyfradd llôg benthyciadau yr Undeb Credyd yn rhatach na chyfraddau cerdyn credyd banc neu rhai archfarchnadoedd.

    Beth fydd y gost?

    Un cyfradd llôg yn unig sydd ar gael mewn undeb Credyd a hwnnw’n 1% ar falans gostyngol y benthyciad. Tra bod yr APR yn 12.68% y flwyddyn golyga hyn £6.56 o lôg ar £100 dros 12 mis. Nid oes unrhyw dâl ar drefnu benthyciadau nac ar adbryniadau cynnar o fenthyciadau pe baech eisiau gorffen talu eich benthyciad yn gynt na’r tymor benodwyd.

    Beth yw uchafswm benthyciad?

    Uchafswm benthyciad yw £5,000 [yn dibynnu ar statws] a 36 mis yw’r cyfnod hwyaf o ad-dalu. Rhaid i fenthycwyr gael lleiafswm o £50 mewn cyfranddaliadau a bod yn aelodau o UCPC ers 3 mis.

    Sut rwy’n ad-dalu fy menthyciad?

    Drwy orchymyn banc misol. Disgwylir i fenthycwyr gynilo tra’n ad-dalu eu benthyciad. Chi sydd i benderfynu faint i gynilo. Cofiwch bod ad-daliadau cyson yn rhoi ichi yswiriant oes rhad ac am ddim.

    Sut mae gwneud cais am fenthyciad?

    Mae ffurflenni ceisiadau a ffurflenni trefnu benthyciadau ar gael o’r swyddfa. Mae’r Pwyllgor Credyd yn prosesu benthyciadau’n wythnosol.

    Ad-daliadau'r Benthyciad

    Enghreifftiau o ad-daliadau a graddfeydd llôg

    Uchafswm benthyciad yw £5,000 [yn ddibynnol ar statws]. Y cyfnod ad-daliad hiraf yw 36 mis. Mae benthyciadau yn yswiriedig yn erbyn marwolaeth i fenthycwyr dan 70 oed. Mae benthyciad cychwynnol fel arfer yn llai na £2,000.

    Cyfanswm y benthyciad Taliadau misol Cyfnod y Benthyciad Cyfanswm y llôg a godir Cyfanswm a dalwyd
    £100 £8.88 12 mis £6.56 £106.56
    £250 £11.76 24 mis £32.24 £282.24
    £300 £9.96 36 mis £58.56 £358.56
    £400 £35.53 12 mis £26.36 £426.36
    £400 £18.82 24 mis £51.68 £451.68
    £400 £13.28 36 mis £78.08 £478.08
    £500 £44.42 12 mis £33.04 £533.04
    £600 £28.24 24 mis £77.76 £677.76
    £700 £23.25 36 mis £137.00 £837.00
    £800 £37.65 24 mis £103.60 £903.60
    £1,000 £47.07 24 mis £129.68 £1,129.68
    £1,000 £33.21 36 mis £195.56 £1,195.56
    £1,500 £70.61 24 mis £194.64 £1,694.64
    £1,500 £49.82 36 mis £293.52 £1,793.52
    £2,000 £94.14 24 mis £259.36 £2,259.36
    £2,500 £117.68 24 mis £324.32 £2,824.32
    £3,000 £141.22 24 mis £389.28 £3,389.28
    £2,000 £66.42 36 mis £391.12 £2,391.12
    £2,500 £83.03 36 mis £489.08 £2,989.08
    £3,000 £99.64 36 mis £587.04 £3,587.04
    £3,500 £116.25 36 mis £685.00 £4.185.00
    £4,000 £132.85 36 mis £782.60 £4,782.60
    £5,000 £166.07 36 mis £975.58 £5,978.58
    Undeb Credyd Plaid Cymru: Cynilion Benthyciadau Ethegol Cyfeillgar