1. Beth yw Undeb Credyd?
Mae Undeb Credyd yn gwmni cydweithredol ariannol o fudd i bawb, sy’n cynnig gwasanaeth cyfleus cynilion a benthyciadau am gost isel i’w aelodau.
Caiff ei berchnogi, ei weithredu a’i reoli gan yr aelodau yn ôl yr egwyddor un aelod un bleidlais. (Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid mawr neu bleidleisiau procsi yn y sefydliad hwn.) Mae’n cynnig y cyfle i bobl gael mwy o reolaeth ar eu materion ariannol eu hunain drwy wneud i’w harian weithio iddyn nhw a’u cymuned.
2. Pwy mae undeb credyd yn ei wasanaethu?
Mae pob Undeb Credyd yn gwasanaethu gr?p penodol o bobl. Mae Undeb Credyd Plaid Cymru yn gwasanaethu aelodau’r Blaid a’u teuluoedd.
3. Pam mae pobl yn dod at ei gilydd mewn undeb credyd?
Mae’r Undeb Credyd yn helpu ei aelodau drwy gynnig cyfleusterau cynilion a benthyciadau cyfleus. Mae cynilion casgliadol yr aelodau yn cynnig ffordd o roi benthyciadau i’r aelodau hynny sydd angen benthyciad.
4. Beth mae'r aelodau yn eu helwa?
Mae Undebau Credyd yn ddielw, felly ar ôl talu treuliau a darparu ar gyfer pob cronfa, caiff yr holl wargedion eu dychwelyd i aelodau ar ffurf difidendau.
5. Ydych chi eisiau pobl sydd eisiau benthyg?
Mae Undebau Credyd yn annog eu haelodau i gymryd benthyciadau pan fyd angen hynny. Mae cyfranogiad llawn gan aelodau yn hanfodol i undeb credyd llwyddiannus.
Mae’r holl aelodau’n cynilo’n rheolaidd fel bod y gronfa arian yn darparu digon ar gyfer pob aelod pan fyddant ei angen. Mae cynilo a pheidio â benthyg a benthyg a pheidio â chynilo yn camddeall diben Undeb Credyd.
6. Beth yw cyfraddau benthyg yr undeb credyd?
Nid yw Undebau Credyd wedi’u creu i wneud elw, felly nid oes rhaid iddynt amrywio eu cyfraddau llog o gwbl. Beth bynnag fo’r gyfradd chwyddiant neu’r gyfradd banc, dim ond un gyfradd sydd gan yr Undeb Credyd: 1% y mis ar y benthyciad sy’n ddyledus (12.68% APR).
Beth yw cost benthyciad o £100 wedi’i ad-dalu dros 12 mis? £106.50 yw’r cyfanswm y mae’n rhaid i chi ei dalu i’r Undeb Credyd (nid oes costau ychwanegol cudd gydag Undeb Credyd
7. Sut mae cronfeydd wedi’u diogelu?
Mae’r cronfeydd wedi’u hamddiffyn mewn nifer o ffyrdd.
Mae pob person sy’n delio ag arian yr Undeb Credyd yn wedi’u gwarantu – noder bod UCPCCU yn delio â gorchmynion banc neu orchmynion post yn unig, h.y. dim arian parod.
Rhaid cyflwyno adroddiadau ariannol chwarterol a blynyddol i’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Mae Swyddog Goruchwylio / Pwyllgor yr Undeb Credyd ei hun yn arolygu ac yn archwilio’i sefyllfa yn rheolaidd
Sefydlir cronfeydd i ddiogelu’r Undeb Credyd.
Mae Archwiliwr sy’n gyfrifydd cymwys yn archwilio’r llyfrau bob blwyddyn.
8. A yw fy nhrafodion â’r undeb credyd yn breifat?
Ydyn; mae’r holl swyddogion, a hefyd rhaid i bob gwirfoddolwr arwyddo, datganiad cyfrinachedd y maent yn rhwym iddo
9. Ydych chi’n rhoi Yswiriant Bywyd am ddim ar bob Benthyciad a Chynilion?
Ydyn. Mae bron pob benthyciad wedi’u hyswirio gan Yswiriant Bywyd heb unrhyw gost ychwanegol i’r aelod. Os byddwch yn marw ac mewn dyled i’r Undeb Credyd, bydd y ddyled hon yn cael ei dileu. Nid oes rhaid i’ch teulu ad-dalu’r benthyciad.
Mae cyfranddaliadau (cynilion) aelodau yn ennill Yswiriant Bywyd heb gost ychwanegol. Caiff pob punt a gynilir ei chyfateb â phunt o Yswiriant Bywyd. Os oedd gennych chi £500 mewn cyfranddaliadau ac yn marw, gallai’ch teulu gael £1000.
Mae rhai eithriadau – rhwng 70 ac 80 oed, mae’r buddion yn dechrau gostwng.
10. Pwy sy’n rheoli undeb credyd?
Yr aelodau sy’n berchen ar ac sy’n rheoli’r Undeb Credyd. Mae’r aelodau’n mynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac yn pleidleisio i’w cyd-aelodau wasanaethu ar y Bwrdd Cyfarwyddwyr, y Pwyllgor Credyd a’r Pwyllgor Goruchwylio. Nid yw’r gwirfoddolwyr hyn yn cael eu talu.
11. Sut ydw i’n ymuno?
Os ydych chi eisoes yn aelod o Blaid Cymru, dechreuwch drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen gorchymyn banc. Gellir cael y rhain gan swyddfa UCPC. Mae ffi aelodaeth £1 y mae angen ei thalu unwaith yn unig. Pan fydd eich ffi aelodaeth wedi’i thalu a’ch bod wedi prynu’ch cyfranddaliad [cynilion] £1 cyntaf, rydych chi’n aelod.
Gallwch newid neu atal eich gorchymyn banc ar gyfer cynilion ar unrhyw adeg
12. A allaf i gyfranogi?
Yn sicr. Gallwch chi wneud gwahaniaeth i UCPC drwy gyfranogi i gynnal y sefydliad o ddydd i ddydd. Rhoddir pob anogaeth a chyfle i aelodau wasanaethu a gwirfoddoli ar gyfer amryw bwyllgorau a dyletswyddau.
13. Pwy sydd ar y Pwyllgorau?
Bwrdd Cyfarwyddwyr
Cadeirydd: Glyn Erasmus; Trysorydd - Jim Criddle; Ysgrifennydd
Cyffredinol - Stuart Fisher; Colin Gregory; Malcolm Parker.
Glyn
Jackson
Ymgynhorydd Wybodaeth Technoleg /Cyhoeddiadau: Tony Couch
Pwyllgor Credyd
: Malcolm Parker; Stuart Fisher; 1 swydd wag
Swyddog Goruchwyliol / Swyddog Croniclo ac Atal Ailgylchu Arian
:Alan Jobbins
Swyddog Cydymffurfio / Cwynion : Colin Gregory
14. Pwy yw’r archwilwyr?
Ross & Williams, Unit 4, Ynys Bridge Court, Gwaelod-y-Garth, Cardiff.
15. Ble mae swyddfa Undeb Credyd Plaid Cymru?
Ty'r Cymry, 11 Heol Gordon, Caerdydd, CF24 3AJ
Ar agor: Dydd Mawrth a dydd Gwener 10.30am - 3.30pm
Ffôn: 029 2049 1888 [peiriant ateb y tu allan i oriau arferol]
E-bost: post@ucpccu.org
16. Beth yw’r sefyllfa ariannol ar hyn o bryd?
30
Medi 2009 [Diwedd y Flwyddyn Ariannol]
Aelodau: 504 o aelodau
Cyfranddaliadau: £287,883.00
Benthyciadau: £195,350.00
Cyfrifon banc: £170,166.00
17. Pwy sy’n aelod?
Trawsdoriad o’r blaid, gan gynnwys 11 AC, 2 AS, 1 ASE, 1 arweinydd Cyngor Sir, 3 arweinydd grwp Plaid ar Gynghorau Sir
18. Aelodau newydd?
Aelodau o Blaid Cymru –The Party of Wales neu aelodau o’i deulu/theulu. Ffurflenni cais gan swyddfa UCPC. Gellir anfon ffurflenni drwy e-bost ond rhaid eu dychwelyd drwy’r post.