Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union Undeb Credyd Plaid Cymru Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union

  • Hafan
  • Cynilion
  • Benthyciad
  • Newyddion
  • Hen Newyddion
  • Cwestiynnau
  • Ffurflenni
  • Dolenni
  • This page in English
    Manylion Cysylltu
    Undeb Credyd Plaid Cymru
    Ty'r Cymry,
    11 Heol Gordon,
    Caerdydd,
    CF24 3AJ
    T: 029 2049 1888
    E: post@ucpccu.org
    Ar agor:
    Mawrth 10:30yb - 3:30pm
    Gwener 10:30yb - 3:30pm

    Cynilio mewn Undeb Credyd

    Daw aelodau at eu gilydd mewn undeb credyd am ddau reswm

    1. I sefydlu modd i warchod cynilion ac

    2. I ddarparu benthyciadau o’r gronfa gynilion hon.

    Gelwir cynilion yn gyfranddaliadau mewn undeb credyd. Does dim yn haws na chynilo gyda Undeb Credyd Plaid Cymru. Llenwch ffurflen gais a ffurflen archeb banc, a'u dychwelyd i'r swyddfa.

    Newid eich taliadau misol

    Gallwch gynilo cyn gymaint neu cyn lleied ac y dymunwch a newid y cyfanswm misol cyn belled a’ch bod yn llenwi archeb banc. Gallwch hyd yn oed roi’r gorau i gynilo beth bynnag sy’n gyfleus i chi.

    Tynnu cyfranddaliadau allan

    Er mwyn tynnu cyfranddaliadau [cynilion] danfonwch neges at ein swyddfa.

    Llôg ar gynilion

    Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn cynnig llôg. Bydd cyfanswm y llôg yn dibynnu ar yr hyn fydd wrth gefn wedi talu treuliau a throsglwyddo arian i’r Gronfa Wrth Gefn Statudol. Yn ystod blwyddyn ariannol 2006-2007 talwyd llôg o 2.5% i’r aelodau.

    Manteision

    Caiff pob aelod yswiriant bywyd yn rhad ac am ddim ar eu cynilion [yn dibynnu ar eu statws].

    Undeb Credyd Plaid Cymru: Cynilion Benthyciadau Ethegol Cyfeillgar