|
Ar raglen ddiweddar ar wleidyddiaeth gan y
BBC dywedodd Mark Lynnette o Gymdeithas Undebau Credyd Prydain cyf. bod
Undebau Credyd mewn sefyllfa dda i wynebu'r wasgfa gredyd.
Disgrifiodd fel mae undebau credyd yn dod
i fri fel hafan ddiogel ar gyfer arian y rhai sy’n fwy gofalus. Maent
yn llai agored i niwed yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni oherwydd mai’r
aelodau sy’n berchen arnynt ac yn eu rheoli.
Nid ydynt yn rhan o’r farchnad stoc, ble
gall y cyhoedd hapfasnachu i ennill rhagor o arian ac mae rheolau llym
arnynt gan Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Ni all undebau
credyd ond rhoi benthyg cyfran o’u harian ar gyfer benthyciadau. Yn
wahanol i fanciau ni allant fenthyca arian ar gyfer rhoi benthyg arian.
Mae 49,000 o undebau credyd mewn 96 o wledydd gydag
asedau o $1.2 triliwn o ddoleri U.D. Yng Nghymru mae 30 gyda 40,000 o
oedolion fel aelodau a 7,500 o aelodau iau. A £16 miliwn mewn cynilion
Yn wahanol eto i fanciau a chymdeithasau
adeiladu ni allant ddal cyfranddaliadau a stoc na rhoi benthyciadau i
unigolion a chwmnïau nad ydynt yn aelodau o’u hundeb credyd.
Rhaid i holl arian undebau credyd fod mewn
banc neu gymdeithas adeiladu. Mae Cynllun
Iawndal Gwasanaethau
Ariannol sy’n gwarantu cyfrifon banciau unigol a chyfrifon cymdeithasau
adeiladu hyd at £85,000 hefyd yn cynnwys undebau credyd. Fodd bynnag y
mwyafswm y gall aelod o undeb credyd ei ddal yw £10,000.
Gwahaniaeth arall rhwng undebau credyd a
sefydliadau ariannol eraill yw bod yr holl gyfrandaliadau a benthyciadau
yn cael eu diogelu gan yswiriant bywyd rhad ac am ddim.
Croesawodd Archesgob Caergaint, Dr Rowan
Williams gynigion San Steffan fydd yn galluogi grwpiau cymunedol,
busnesau lleol, clybiau a chymdeithasau gwirfoddol i ymuno ag undebau
credyd.
Meddai Bill Hudson o Ganolfan
Gydweithredol Cymru. “ Mae gan Undebau Credyd rôl hanfodol bwysig i’w
chwarae mewn cyfnod o wasgfa ariannol. Maent wedi eu sefydlu ar
egwyddorion cydweithredol. Nid ydynt o les i unrhywun ar wahan i’w
haelodau a chymunedau eu haelodau”
|