Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union Undeb Credyd Plaid Cymru Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union

  • Hafan
  • Cynilion
  • Benthyciad
  • Newyddion
  • Hen Newyddion
  • Cwestiynnau
  • Ffurflenni
  • Dolenni
  • This page in English
    Manylion Cysylltu
    Undeb Credyd Plaid Cymru
    Ty'r Cymry,
    11 Heol Gordon,
    Caerdydd,
    CF24 3AJ
    T: 029 2049 1888
    E: post@ucpccu.org
    Ar agor:
    Mawrth 10:30yb - 3:30pm
    Gwener 10:30yb - 3:30pm

    Hen Newyddion

    Dau Weithiwr Caled yn CwrddLlun: Dafydd Wigley a Colin Gregory  - Dafydd Wigley yn llongyfarch Colin Gregory

    Mae Dafydd Wigley, Llywydd Anrhydeddus Undeb Credyd Plaid Cymru  yn llongyfarch y Swyddog Cydymffurfio  Colin Gregory  am ei wasanaeth hir i’r Undeb.  Swydd y Swyddog Cydymffurfio yw sicrhau bod yr Undeb Credyd yn cydymffurfio  â deddfwriaeth newydd a gofynion rheoliadol Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.  

    Pan nad yw’n brysr yn y swyddfa mae Colin, sy’n Gynghorydd Tref ym Mhontypridd, yn weithgar yn y gymuned  fel llywodraethwr ysgol ac yn aelod o’r ‘Llygad Lleol’.  Mae’n aelod o Gôr Meibion Pontypridd ac yn aelod oes o Glwb y Bont. 

     

    Mae'ch arian yn ddiogel gyda'r Undeb  -   Leanne Wood AC a Chris Franks AC Llun: Chwith i dde, Leanne Wood A.C. a Chris Franks A.C.
    Mae aelodau undebau credyd yn rhannu eu cyllid trwy gytundeb gydfuddiannol o gydberchnogaeth. Caiff aelodau fenthyciadau llog isel yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi'i arbed. Mae undebau credyd yn cael eu rheoleiddio'n gadarn. Nid yw'r wasgfa gredyd wedi effeithio ar undebau credyd gan nad ydyn nhw'n ymwneud ag unrhyw fuddsoddiadau peryglus. 

    Bwriad Llywodraeth Cymru'n Un yw sicrhau bodolaeth undeb gredyd ym mhob ardal o Gymru. Daw undeb yn gryfach wrth i'r aelodaeth gynyddu, ac felly gellir cynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau.  Gall pob aelod o Plaid Cymru ymaelodi ag Undeb Credyd y Blaid. £1 yw'r lleiafswm benthyca a gallwch drefnu benthyciad ymhen dim o dro.

     
     

    Awst '08: Anrhydedd i Ysgrifennydd yr Undeb Credyd

    Llun: Stuart Fisher Dyfarnwyd HNC gydag anrhydedd mewn Astudiaethau Undebau Credyd o Brifysgol Morgannwg i Stuart Fisher, Ysgrifennydd Undeb Credyd Plaid Cymru.

    Enillodd Stuart, nid yn unig anrhydedd haeddiannol ond cwblhaodd gwrs dwy flynedd mewn 18 mis. Gwelwn ef uchod yn y Seremoni Wobreuo gynhaliwyd fis Gorffennaf 2008.

    Mae’r cyfarwyddwyr yn falch iawn o lwyddiant ein hysgrifennydd. Mae derbyn y cymhwyster hwn yn adlewyrchu y modd broffesiynol y mae Undeb Credyd Plaid Cymru yn gweithio ar ran ei haelodau.

    Roedd y cwrs yn cynnwys modiwlau ar hanes y mudiad yn y Deyrnas Unedig, y gyfraith sy’n ymwneud â chyflogaeth ac agweddau o gyfraith Cymru a Lloegr sy’n berthnasol i Undebau Credyd.

    Roedd y rhan olaf yn cynnwys adroddiad o 5,000 o eiriau ar bwnc oedd yn berthnasol i Undebau Credyd. Ar gyfer y prosiect hwn dewisodd Stuart amlinellu gwaith gwirfoddolwyr ym mudiad undebau credyd yn Ne Cymru. Rhoddodd hyn gyfle i Stuart i ymweld ag undebau credyd eraill yn y Cymoedd gan wneud cysylltiadau defnyddiol a gwneud ffrindiau.

    Mae’r undebau credyd yn y Cymoedd yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi y rhai hynny sy’n cael eu heithrio ariannol ac hefyd yn helpu i adnewyddu yr economi leol a chadw arian yn y gymuned.

    Mae’r modd ethegol a chynaladwy undebau credyd o weithio yn eu gwneud yn ddewis amlwg i bawb sydd a lles y gymuned yn agos i’w calonnau.

    Gorffennaf '08: Ty’r Cymry: Ein Cartref Newydd

    Llun: Chwith i dde, Alan Jobbins ac Owen John Thomas Gwelir Owen John Thomas, cyn AC Canol De Cymru a chadeirydd Pwyllgor Ty’r Cymru yn trosglwyddo i Alan Jobbins, un o sylfaenwyr Undeb Credyd Plaid Cymru yr allweddi i ystafelloedd yr Undeb Credyd yn Nhy’r Cymru.

    Yn 1936 rhoddwyd Ty’r Cymry, sydd yn ardal Y Rhath gan Mr Llewelyn Williams, ffermwr o Fro Morgannwg ar gyfer sefydliadau, cymdeithasau a grwpiau o bobl sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a’i diddordebau. Heddiw mae yn nwylo ymddiriedolwyr.

    Bu Ty’r Cymru yn gartref i Ysgol Sadwrn Gymraeg Caerdydd o 1943 – 1947. arweiniodd hyn i sefydlu ysgolion o’r un fath drwy Morgannwg a Gwent. Bu’n gartref i nifer o sefydliadau yn eu tro – UCAC, Cymdeithas yr Iaith, Yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Y Gynghrair Geltaidd [Cangen Cymru], Mudiad Ysgolion Meithrin , Ymgyrch Senedd i Gymru, Mudiad Addysg Gristnogol Cymru, Menter Caerdydd, Plaid Cymru a llawer o fudiadau eraill.

    Ar hyn o bryd defnyddir Ty’r Cymru gan Ysgol Feithrin Gymraeg, Dosbarth dysgu Cymraeg, Plaid Cymru [Canol Caerdydd], Cymdeithas yr Iaith a Chymdeithas Ty’r Gymru (cymdeithas sy’n cyfarfod i drafod diwylliant Cymru).

    O’r 22ain o Orffennaf 2008 ymlaen: UCPCCU, Ty’r Cymry, 11 Heol Gordon, Caerdydd, CF24 3AJ. Ffôn 029 2049 1888. Ar Agor Dydd Mawrth a Gwener, 10.30am – 3.30pm. E-bost: post@ucpccu.org. Gwefan: www.ucpccu.org

    Swyddfa Gofrestredig: Ty'r Cymry, 11 Heol Gordon, Caerdydd, CF24 3AJ
    Undeb Credyd Plaid Cymru: Cynilion Benthyciadau Ethegol Cyfeillgar