|
| |
| |
|
Gweithio drosom ni ....... |
|
|
Malcolm Parker |
|
| |
|
Malcolm Parker |
|
 |
Un
o’n gwirfoddolwyr swyddfa prysuraf yw’r Cynghorydd Malcolm Parker. Fel
Swyddog Rheoli Credyd, fe sy’n gyfrifol am geisiadau ac am fenthyciadau
a fe sy’n monitro’r ad-daliadau. Pan nad yw’n gweithio i’r Undeb Credyd
a thros ei etholwyr ym Mhontllanffraith mae Malcolm yn mwynhau rhedeg.
|
|
Malcolm sefydlodd gymdeithas Road Runners Islwyn ac
mae’n Llywydd Oes o’r gymdeithas honno. Mae’r marathonau mae wedi eu
rhedeg yn cynnwys Las Vegas, Israel, Athens, Llundain a Chaerdydd. Ei
hoff ras oedd y ras gyfnewid o Gastell Caernarfon i Gaerdydd un oedd yn
mynd drwy 30 o etholaethau. |
 |
|
Mae’n honni iddo ganfasio y rhan fwyaf ohonynt!!
|
| |
|
Ein Cadeirydd -
Glyn Erasmus |
|
Cefais
fy ngeni ym Mhonllanfraith, heb fod ymhell o ble rwyn byw nawr. Dros y
blynyddoedd rwyf wedi byw yn yr Almaen ac mewn gwahanol leoedd yn Lloegr.
Priodais 42 mlynedd yn ôl â Carol oedd yn enedigol o’r Barri.. Cwrddais
â hi pan yn yr ysgol yn Wiltshire. (Roedd ein tadau yn gweithio gyda’r
awyrlu yno.) Mae gennym ddau fab ,Owain a Simon, y ddau nawr yn eu
tridegau.
Treuliais y rhan fwyaf
o’m cyfnod gwaith mewn diwydiant, fel dylynydd, peirianydd diwydiant a
Swyddog Rheoli Ansawdd. Yn ddiweddarach deuthum yn hunangyflogedig gan
weithio ym Mhrydain, Ewrop ac UDA. Mae’r profiadau busnes hyn wedi bod
yn ddefnyddiol i mi fel Cadeirydd presennol yr Undeb Credyd.
Y Cynghorydd Malcolm
Parker a’r Cynghorydd Keith Lloyd fu’n gyfrifol am i mi ymuno â’r Blaid
a’r Undeb Credyd. Arferwn chwarae criced a golff ond y Blaid a’r Undeb
Credyd yw fy hobiau nawr ac ambell gêm gyfriadurol.
|
| |
|
Ein Trysorydd -
Jim Criddle |
|

Cefais fy ngeni
a’m magu yn Islwyn (Pontllanffraith, fel ein Cadeirydd, Glyn)
a thipyn o flynyddoedd yn ol erbyn hyn roeddwn yn chwarae
rygbi dosbarth cyntaf dros Glyn Ebwy. |
Rwyf wedi bod yn
Gynghorydd ar Gyngor Bwrdeisdref Caerffili, yn cynrychioli
Pontllanffraith, ers 2008. Ar un adeg, roeddwn yn
aelod o Gyngor Bwrdeisdref Islwyn am 20 mlynedd. Rwy’n Gadeirydd y
Pwyllgor Cynllunio, aelod o Bwyllgor Archwilio Polisiau
ac Adnoddau, Panel Datblygyu
Cynaladwy, a chyn gadeirydd y Pwyllgor Archwilio; aelod o
Fwrdd Llywodraethol dwy ysgol, Pwyllgor Rheoli Cyfrifon
Pensiwn Gwent, Archifau Gwent, Archifau Morgannwg, y Cyngor
Llyfrau Cymraeg, Cadeirydd un partneriaeth lleol ac aelod
gweithgar o un arall, ac yn fyfyriwr OU parhaol – digon i’w
wneud gyda’m hamser felly!
|
|
Mae gan drysorydd ystod eang o
ddyletswyddau.
Maent yn cynnwys darparu adroddiadau ar gyfer aelodau
Bwrdd y Cyfarwyddwyr, Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, Ford
& Warren (Cyfreithwyr), Williams & Ross (Archwilwyr) a
Llywodraeth Cymru.
Mae’n ofynol i mi sicrhau sustem dderbyniol o’r
llyfrau, o’r cyfrifon, cadw anfonebau a thaliadau, monitro ac
adrodd ar berfformiad yr Undeb Credyd yn unol â’r Cynllun
Busnes. |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
|
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
|
center> |
|
 |